Stori’r Iaith

Inspired by the recent S4C Series, I decided that I wanted to write my (Welsh) language story and explain my relationship with the language. It’s the first time I’ve written something for public consumption in Welsh, so it’ll be with some trepidation (and awareness that my written Welsh is far from perfect) that I click publish. If you would like to read this post in English translation, I recommend using bing.

Dw i ddim yn siarad yr iaith Gymraeg fel mamiaith ond mae’r Gymraeg yn llifo yn fy ngwaed. Doedd Cymraeg ddim yn iaith y cartref pan ro’n i’n blentyn ond dysgais i ymadroddion bob dydd fel ‘Nos da’ neu ‘Cariad’ yn y tŷ diolch i dad. Roedd dad dad yn Cymro Cymraeg o’r orllewin. Bu farw pan ro’n i’n 11 oed a chefais i erioed siarad ag ef yn y Gymraeg, yn ei famiaith, ond roedd digon o gyfleodd i siarad gyda ei chwaer fe, fy hen fodryb, yn ei mamiaith. Dysgais i llawer yn yr ysgol gynradd ac pan wnes i TGAUau, astudiais i barddoniaeth yn Gymraeg. Dw i’n gallu cofio nawr, dau ddegawd yn ddiweddarach, mod i’n teimlo llawenydd. Dw i’n gweld yr iaith Gymraeg fel nifer o bethau: anrheg, etifeddiaeth, cyfrifoldeb ac allwedd. Yn y post yma, dw i’n mynd i esbonio pam.

Yn cyntaf: anrheg. Gall anrheg fod yn rhywbeth drud fel gemwaith ond hefyd gall fod yn rhywbeth wyt ti’n ei roi yn rhydd, heb gost, am ddim, fel cwtsh. Yn ôl Bwdha, pan derbynnaist ti anrheg mae gen ti ddewis. Does dim rhaid i ti cofleidio’r peth, ni defnyddio’r peth, ni hoffi’r peth. Mae gen ti’r hawl i anwybyddu’r peth, os ti eisiau. Ond, mae gen ti’r posibilrwydd i mwynhau’r anrheg. Yn fy marn i, mae’r ieithoedd treftadaeth neu ieithoedd cymunedol fel hyn. Mae dewis gyda ni.

Hefyd, mae’r Gymraeg yn etifeddiaeth. Ysgrifennodd Gerallt Lloyd Owen: ‘A throesom iaith yr oesau / yn iaith ein cywilydd ni’ yn ei gerdd: Etifeddiaeth. Fel anrhegion, gall etifeddiaeth yn rhywbeth gwerthfawr neu rhywbeth lletchwith neu, hyd yn oed, annifyr. Mae dewis yna, bob amser. Ond, yn wahanol i anrheg, mae’r etifeddiaeth yn dod i ni dros y cenedlaethau. Mae hanes gyda’r iaith.

Am y rheswm hwn, dw i’n gweld yr iaith fel cyfrifoldeb. Mae cenedlaethau wedi cadw a newid yr iaith ac nawr, ein tro ni yw hi. Os ydyn ni eisiau gael iaith i rhoi i’r genhedlaeth nesaf, mae rhaid i ni cadw hi. Fel y blaned, fel gwaith celf, fel ein cefn gwlad, mae’r iaith Gymraeg yn ein stiwardiaeth dim ond dros dro. Dyn ni’n wedi derbyn yr iaith o’r cenedlaethau blaenorol, ac nawr mae gyda ni’r rhwymedigaeth i amddiffyn Cymraeg am y dyfodol.

Yn olaf, mae’r Gymraeg yn allwedd sy’n agor y drws i fyd o ddiwylliant, o hanes, o chwedlau. Os ti’n byw mewn lle a dwyt ti ddim yn siarad ni yn deall iaith y lle, ti’n colli bywyd y lle. Dw i wedi cwrdd â phobl yma yn Sbaen nad oedd wedi dysgu Sbaeneg o gwbl; pobl na allai hyd yn oed archebu bwyd mewn bwyty ar ôl misoedd yn y wlad. Dw i ddim yn eu deall nhw. Yng Nghymru, a chyda’r iaith Gymraeg, mae gennym ni yn ein dwylo allwedd i mywnhau’r Eisteddfodau, y cerddoriaeth, y barddoniaeth ac yn deall enwau lleoedd. Mae’r iaith yn dangos ni pwy ydyn ni a phwy oedd ein hynafiaid.

Leave a comment